Gwasanaeth Bws Ogwen o Fethesda i Lyn Ogwen a Chapel Curig yn dechrau dydd Sadwrn! 1.4.23 Rhannwch plis.
Bws Ogwen service from Bethesda to Llyn Ogwen & now Capel Curig starting on Saturday! 1.4.23 RT please.#BwsOgwen pic.twitter.com/Sq9NMPBc4q
— Partneriaeth Ogwen (@PartneriaethOg) March 29, 2023
Roedd plant Bl6 wedi mwynhau bore yn yr Adran Wyddoniaeth yn Ysgol Dyffryn Ogwen ddoe. Bu llawer o gyfleoedd i arbrofi a datrys problemau drwy gydol y bore. Diolch i ddisgyblion @YsgLlanllechid , @PenybrynPesda a Ysgol Rhiwlas am eu cwmni ac i @DyffrynOgwen am drefnu’r bore. pic.twitter.com/XRzN30cjwG
— Ysgol Tregarth (@YsgolTregarth) March 29, 2023
Bore Agored Dosbarth Elidir! Disgyblion Blwyddyn 6 yn ymfalchio yn eu gwaith! Paned, bisged a sgwrs! #cymraegynygymuned @Siarteriaith @CyngorGwynedd @GwEyGymraeg pic.twitter.com/Nsx45rzdko
— Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg (@YsgolAc) March 29, 2023
Cofiwch – mae Clwb #TenisBwrdd yn symud i nos Iau am 7:30 wsnos yma!
Remember – #TableTennis Club moves to 7:30 Thursday night this week#NeuaddRhiwlas pic.twitter.com/5SqbxeZfoO
— Neuadd Bentref Rhiwlas (@NeuaddRhiwlas) March 29, 2023
Band Bwcad, canu, dawnsio a lot o hwyl yng nghwmni Geth Tomos a Cerdd-amdani heddiw! Diolch Geth! 👍💃🕺🎤🎶🎸@CerddYsgolion @cerddamdani1 @Siarteriaith pic.twitter.com/T5wpa0HCzN
— Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg (@YsgolAc) March 29, 2023
Dewch am dro – cyfle am sgwrs a chwmni
Cyfaill cymunedol yn cadw cwmni wrth fynd am dro yn yr ardal
Darllen rhagorBore prysur a gwersi Gwyddoniaeth yn y sesiwn pontio cynradd/uwchradd heddiw! Diolch am y croeso @DyffrynOgwen @Gwyddydo
🔍📊✏️🧪🧫@ogwen360 @CyngorGwynedd pic.twitter.com/66OTPXyfos— Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg (@YsgolAc) March 28, 2023
Braf oedd croesawu rhieni dosbarthiadau Glyder Fach a dosbarth Carnedd i’r bore agored! Pleser oedd gweld y plant yn ymfalchio yn eu gwaith a chwarae gemau bwrdd drwy’r Gymraeg.#cymraegynygymuned @ogwen360 @DyffrynOgwen @Siarteriaith @GwEyGymraeg @CyngorGwynedd pic.twitter.com/PR6xZiJrc9
— Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg (@YsgolAc) March 28, 2023
Pared y Pasg 2023! Pawb wedi mynd i ymdrech anferthol i greu hetiau allan o ddeunydd wedi’i hail-gylchu! Diolch i’r rhieni am helpu’r plant a diolch hefyd i Marian Arman, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol am y gwaith anodd iawn o feirniadu! @ogwen360 pic.twitter.com/74uCWQSwuO
— Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg (@YsgolAc) March 28, 2023
Bore gwych yma yn @DyffrynOgwen yng nghwmni y disgyblion bl.6 o @YsgolAc @YsgolRhiwlas @YsgolTregarth a @YsgLlanllechid a fydd yn ymuno â ni mis Medi. Y thema oedd dŵr: dadansoddi data, dylunio hidlydd, asesu ansawdd dŵr a digon o drafod, cydweithio a bod yn fentrus! pic.twitter.com/Qp11VUntS0
— Gwydd Dyffryn Ogwen (@Gwyddydo) March 28, 2023