Dewch am dro – cyfle am sgwrs a chwmni

Cyfaill cymunedol yn cadw cwmni wrth fynd am dro yn yr ardal

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Cafodd Linda Brown sydd yn gweithio fel ‘Cyfaill Cymunedol’ ym Mhartneriaeth Ogwen, y cyfle yn ddiweddar i fynd am dro gyda Nerys Jones sydd yn un o breswylwyr Plas Ogwen.  Bu i Linda a Nerys fwynhau mynd am dro o amgylch Abercaseg – Cwlyn – Cae’r Berllan ac yn ôl i gartref Plas Ogwen.

Mae Nerys wrth ei bodd yn cael y cyfle i gerdded gan iddi wneud lot o hynny gyda’i thad pan oedd hi’n blentyn yn Llanberis.  Cafodd Linda bleser mawr yn  gwrando ar Nerys yn dweud ei hanes yn blentyn.  Roedd Nerys wrth ei bodd hefyd o’r cyfle ar y ‘dro’ i siarad hefo hwn a llall ar y ffordd.

Daeth Judith Kaufmann (Partneriaeth Ogwen) am dro hefo Linda a Nerys yn ogystal. Mae Judith yn mynd a chriw o bobol am deithiau cerdded bob yn ail wythnos – mae’n gyfle i bobol gyd-gerdded a chael sgwrs a mynd am dro hamddenol o amgylch bro Dyffryn Ogwen a thu hwnt.  Am fwy o wybodaeth am y teithiau cerdded gellir cysylltu â Judith drwy ebost – judith@ogwen.org.

Mae Linda yn awyddus iawn i greu cysylltiadau newydd gyda’r henoed neu unrhyw un sy’n teimlo’n unig yn ardal Dyffryn Ogwen ac fuasai yn falch o gael sgwrs a phaned neu fynd am dro bach. Os oes unrhyw beth sydd yn poeni rhywun cysylltwch â Linda ar 07492290041 neu cyfaill@ogwen.org