Gweithgareddau Nadolig yn y Gofod Gwneud

Llawer o weithgareddau i chi’n barod am yr Ŵyl!

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Mae gan y Gofod Gwneud yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda lu o ddigwyddiadau Nadoligaidd ar y gweill i gael chi’n barod am y Nadolig!

Gan ddechrau dydd Sadwrn, 23 Tachwedd o 10am tan 1pm, galwch heibio i ddefnyddio’r torrwr laser i greu addurniadau Nadolig personol allan o bren neu acrylig am £1 yr addurn yn unig. Am ffordd wych i ddechrau eich siopa Nadolig!

Dydd Mawrth, 26 Tachwedd o 5:30pm tan 7:30pm, bydd Erika Spencer yn arwain gweithdy rhad ac am ddim i greu addurniadau Nadolig o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Darperir yr holl ddeunyddiau.

Bydd gweithdy rhad ac am ddim gyda Lora Morgan yn gwneud torchau PomPom Nadolig ddydd Llun, 2 Rhagfyr o 5pm tan 7pm. Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer oedolion a theuluoedd gyda phlant dros 10 oed. Darperir deunyddiau i wneud y torchau, ond rydym yn annog pobl i ddod ag addurn neu ffigur bach i’w ychwanegu at y torch unwaith y bydd wedi’i orffen.

Gweithgaredd arall am ddim i’r teulu yw ein sesiwn Origami Nadolig gyda Steve Willis ar ddydd Iau 5 Rhagfyr rhwng 3:30 a 5pm. Cyfle arall i greu addurniadau hyfryd ar gyfer eich cartref a’ch ffrindiau gan ddefnyddio papur a deunyddiau wedi’u hailgylchu.

Bydd ein gweithdy rhad ac am ddim diwethaf yn creu ffigurau Nadolig ffelt ddydd Llun, 9 Rhagfyr rhwng 5pm a 7pm. Mae hwn yn weithdy rhad ac am ddim a darperir yr holl ddeunyddiau. Mae’n addas ar gyfer oedolion neu deuluoedd â phlant dros 10 oed.

Cysylltwch â gofod@ogwen.org i gadw lle ar unrhyw un o’r gweithdai neu i gael mwy o wybodaeth.

Dweud eich dweud