Partneriaeth Ogwen: Cymuned Ysbrydoledig yng ngwobrau Green Heart Hero Awards

Enwebiad arall i griw Partneriaeth Ogwen

gan Tom Simone
Mae Partneriaeth Ogwen wedi ein enwebu ac wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cymuned Ysbrydoledig yng ngwobrau Green Heart Hero Awards y Climate Coalition.
Mae’r Green Heart Awards yn amlygu’r arwyr di-glod sy’n helpu i greu dyfodol lle nad yw’r DU yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant llynedd i brif swyddog Partneriaeth Ogwen Meleri Davies. Enillodd wobr Academi Cynaladwyedd 2019 Cymru fel Eiriolydd Cynaladwyedd a gwobr Regen ar lefel Prydain fel ‘Green Energy Pioneer’.
Dywedodd Meleri “Ers ein sefydlu yn 2014, mae Partneriaeth Ogwen wedi tyfu o dim o 2 i dim o 9 aelod o staff ond yn bwysicach, rydym wedi cael y cyfle a’r fraint i weithio efo’n cymuned i ddatblygu prosiectau cymunedol ac amgylcheddol sy’n dod a budd gwirioneddol i’r ardal. Mae cael ein enwebu a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau yma’n annisgwyl ac yn fraint a rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi’n enwau ymlaen. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o waith caled ein cymuned wrth i ni gydweithio i daclo newid hinsawdd ar lawr gwlad yma yn Nyffryn Ogwen ac edrychwn ymlaen yn arw i barhau efo’r gwaith yma’n y dyfodol agos.”