Byddwn yn cynnal digwyddiad i rannu gwybodaeth ar Ddydd Sadwrn, 17 Chwefror yn Gorffwysfan o 10yb tan 2yh gyda theithiau o amgylch safle Yr Hen Bost am 11yb a 1yh. Croeso cynnes i bawb!
Dyma diweddariad cryno o’r prosiect hyd yn hyn ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi ddiwedd y flwyddyn diwethaf:
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd cynllunio i’n cais i ddatblygu Canolfan Yr Hen Bost. Mae hyn yn newyddion da i’r ardal gydag adeilad gwag yn cael ei ddatblygu er budd ein cymuned.
Mae’r pensaer, Elinor Gray-Williams wedi ei apwyntio i ddod a thîm dylunio cryf at ei gilydd i arwain ar ddatblygiad yr adeilad a rydym yn falch fod Partneriaeth Ogwen wedi gallu sicrhau cyllid i wireddu’r weledigaeth ar gyfer y prosiect.
Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yma. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, plîs cysylltwch gyda Meleri Davies ar 01248 602 131 neu e-bostiwch partneriaeth@ogwen.org.
Felly, dewch draw i’n gweld ni ar ddydd Sadwrn, 17 Chwefror i glywed mwy.
Cyllidir y datblygiad trwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan a chronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.