Yr Hen Bost – Diwrnod Agored

Hoffai Partneriaeth Ogwen ddiolch i’r gymuned am wneud y diwrnod agored yn llwyddiant

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Hoffai Partneriaeth Ogwen a’r tîm sy’n gweithio ar brosiect Yr Hen Bost ddiolch i bawb a ddaeth i’n diwrnod agored ddydd Sadwrn 17 Chwefror.

Roedd yn gyfle gwych i ni drafod y prosiect gyda chymaint o bobl a chael eu mewnbwn a’u syniadau. Hoffem hefyd ddiolch i aelodau ein Grŵp Llywio a gwirfoddolwyr am wneud y diwrnod agored yn llwyddiant.

Byddwn yn ymestyn allan i grwpiau a sefydliadau ledled Dyffryn Ogwen dros y misoedd nesaf i gael cymaint o adborth a mewnbwn â phosibl ar gyfer datblygiad ein Canolfan Dreftadaeth. Mae’n hollbwysig i ni greu canolfan y gall y gymuned fod yn falch ohoni a theimlo’n rhan ohoni. Os hoffech i un o’n tîm ddod i siarad â’ch grŵp neu fudiad, cysylltwch â robyn@ogwen.org

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – mae ein holiadur i’w weld ar y ddolen hon: https://forms.gle/auSiAf7N1cpi599s8

Cyllidir y datblygiad trwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan a chronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.