Ysgol Roc yn Neuadd Ogwen

Hwyl hanner tymor i bobl ifanc 10 oed a hŷn ar ddydd Iau

Carwyn
gan Carwyn
09B62756-56F9-4C3A-A7AB

Ydych chi’n chwilio am rywbeth hwyl ac am ddim i’r plant ei wneud yn lleol?

Ar ddydd Iau, 23 Chwefror mae digwyddiad Ysgol Roc yn cael ei gynnal Cerdd Gymunedol Cymru a Chyngor Gwynedd yn Neuadd Ogwen.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim!

Felly os oes yna blentyn neu berson ifanc 10 neu hŷn acw sy’n hoffi canu, yn chwarae gitâr, gitâr fas, drymiau neu offeryn arall, dyma gyfle gwych.

Byddant yn cael y cyfle i chwarae mewn band a chwrdd â cherddorion ifanc eraill lleol gyda thiwtoriaid yn arwain y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â Sarah Zyborska trwy e-bost: sarahzyborska@gmail.com– addas i bobl ifanc (10+ oed).