Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am rywun i arlwyo ym Mwthyn Ogwen

Allech chi gynnig gwasanaeth arlwyo yn lleol?

Carwyn
gan Carwyn
77462B31-FAA6-4720-A338

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn parhau i chwilio am allu darparu gwasanaeth arlwyo i ddarparu bwyd i bobl ifanc ym Mwthyn Ogwen.

Fel rhan o’r ddarpariaeth ym Mwthyn Ogwen, maent yn cydweithio gydag ymddiriedolaeth yr “Outward Bound” i ddarparu profiadau preswyl i bobl ifanc yn yr adeilad.

Potensial

“Rydym yn chwilio am arlwywr i baratoi tri phryd iach y dydd i bobl ifanc sy’n aros ar y safle, fel tanwydd ar gyfer eu hanturiaethau awyr agored,” meddai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar eu gwefan.

“Gydag archebion trwy’r flwyddyn, mae trosiant yn debygol o fod yn fwy na £100,000, gyda’r potensial ar gyfer twf yn 2024.”

Mae’r hysbyseb yn nodi mai gweithredu yn ystod yr wythnos y byddai’r arlwywyr fel rheol, gyda gwaith penwythnos yn brin.

Datgan diddordeb

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno datganiad o ddiddordeb neu sydd ag ymholiadau am y cyfle, gysylltu â Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol a Joanne Bewley, Cydlynydd Cyfleusterau (trystan.edwards@nationaltrust.org.uk 07779 222180 / joanne.bewley@nationaltrust.org.uk 07890 898113) ac mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yma.

Dylech gyflwyno gais cyn gynted a bo modd a dim hwyrach na 31 Ionawr.