Ymchwiliad i’r tân yn Nhregarth

Criwiau tân o sawl ardal wedi eu galw

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r Gwasanaeth Tân wedi cadarnhau fod yna ymchwiliad ar gychwyn i ddigwyddiad yn Nhregarth y bore ma.

“Cawsom ein galw i dân mewn uned fasnachol yn Nhregarth, Gwynedd am 6.32 o’r gloch y bore yma,” meddai neges gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

“Yn anterth y digwyddiad, roedd criwiau o Gaernarfon, Porthaethwy, Llanberis a Bangor a’r Peiriant Ysgol Uchel yn y Rhyl yn bresennol.

“Doedd dim anafiadau, a bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw.”