Tân yn Nhregarth

Gwasanaeth Tân ar y safle

Carwyn
gan Carwyn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn cynghori trigolion Ffordd Tanrhiw, Tregarth i gau drysau a ffenestri oherwydd tân y bore ma (14 Rhagfyr).

Mewn neges ar Facebook, mae’r Frigad Dân yn dweud:

“Rydym ar hyn o bryd yn delio gyda thân mewn adeilad oddi ar Ffordd Tanrhiw, Tregarth.

“Rydym yn gofyn i bobl lleol gau ffenestri a drysau a chadw ffwrdd o’r ardal tra bod diffoddwyr tân yn delio efo y digwyddiad.”

Gan obeithio fod pawb yn ddiogel ac nad oes gormod o ddifrod.