Tocynnau a chludiant i’r ’Steddfod

Partneriaeth Ogwen a Chyngor Gwynedd yn hyrwyddo mynediad i’r Brifwyl

gan Huw Davies

Gyda’r Eisteddfod yn dechrau ddydd Sadwrn yma mae prosiect Dyffryn Gwyrdd y Bartneriaeth yn annog pobl sydd heb gludiant i gysylltu er mwyn cael pas yn Efan y car trydan i faes y Brifwyl.

Meddai Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Gwyrdd:

“Bydd Efan y cerbyd trydan yn rhedeg heb allyriadau draw i Foduan ar y dydd Llun a’r dydd Gwener.

“Mae croeso i drigolion y Dyffryn gysylltu er mwyn trafeilio’n wyrdd a heb allyriadau draw i’r Eisteddfod.

”Galwch fewn i’r swyddfa, ffoniwch neu cysylltwch dros y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cadw eich lle.”

Hefyd fel rhan o waith y prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol bydd y Bartneriaeth a chyfeillion eraill sy’n darparu cludiant cymunedol, Yr Orsaf Penygroes, Y Dref Werdd Blaenau Ffestiniog, a Drws i Ddrws Pen Llŷn yn cynnal sesiwn drafod ar y pwnc hwnnw am 11am fore Llun, Awst 7fed.

Os oes gennych chi ddiddordeb dysgu mwy am gludiant cynaliadwy – cerbydau trydan, beics trydan neu drafod eich pryderon am gludiant cyhoeddus yng Ngwynedd galwch draw i babell Cymunedoli ar y maes.

Byddwch yn sicr o gael trafodaeth ddifyr, ella dysgu rhywfaint o bethau newydd a hyd yn oed cael panad efo’r criw!