Taith Bob Coblyn

Dilynwch daith Bob Coblyn o amgylch Dyffryn Ogwen yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Abbie Jones
gan Abbie Jones

Drost yr wythnosau nesaf, fydd Bob Coblyn o Partneriaeth Ogwen yn ymweld â siopau a mudiannau lleol Dyffryn Ogwen.

Bydd Bob yn tynnu sylw at fargeinion ac anrhegion Nadoligaidd yn y siop i helpu trigolion y gymuned i ddod i adnabod yr holl siopau sydd ar gael yn y Dyffryn.

Edrychwch allan ar straeon (stories) cyfryngau cymdeithasol Partneriaeth Ogwen i weld ym mha siop mae Bob heddiw ac os da chi’n ei weld o i mewn yn siop, tynnwch lun a thagiwch ni @PartneriaethOgwen!

Gobeithio bydd o’n goblyn da a ddim yn achosi gormod o drwbl!

Defnyddiwch y ddolen yma i ymweld a dudalen Facebook Partneriaeth Ogwen.