“Sudd afal gorau’r byd”

Gwasgfa afalau cymunedol Partneriaeth Ogwen

Menna Thomas
gan Menna Thomas
Afalau1-1

Chris a Huw yn mwynhau’r sudd afal

Afalau2-1

Judith yn brysur yn gwasgu’r afalau

A hithau’n dymor y cynhaeaf daeth criw o drigolion y Dyffryn at ei gilydd yn Llys Dafydd fore Sadwrn diwethaf ar gyfer creu sudd afal blasus ac iachus.

‘Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Bartneriaeth Ogwen a GwyrddNi dan ofal dwylo profiadol Judith Afallon a daeth ffrindiau hen a newydd o bell ac agos ar gyfer manteisio ar y peiriannau ac arbenigedd i greu galwyni o’r hylif aur.

Meddai Huw Davies o’r Bartneriaeth: “Waeth be fo’r tywydd mae pobl wrth eu bodd yn dod atom gyda’u ‘falau.

“Sesiwn hwylus, gymdeithasol a chynnyrch gwerth chweil ar y diwedd – sudd afal gorau’r byd! Diolch i bawb a gymerodd rhan a gobeithio byddwch yn mwynhau’ch sudd.”

Datblygiad newydd ‘leni oedd gwasgu ar gyfer creu sudd ar gyfer sesiynau Swpar Charwel Hwb Ogwen. Mae’r sesiynau hynny yn digwydd bob pnawn Mercher yng Nghefnfaes o 4pm tan 6pm lle mae pryd cynnes ar gael i unrhyw un yn rhad ac am ddim.

Yn ogystal bu’r unigolion a theuluoedd a fynychodd yn garedig iawn gyda chyfraniadau ariannol a chodwyd bron i £50 ar gyfer cronfa’r Hwb – arian defnyddiol iawn ar gyfer prynu bwydydd a nwyddau ar gyfer y pecynnau argyfwng.

“Roedd hi’n braf cael sgwrsio hefo ffrindiau hen a newydd wrth i ni greu’r sudd Dydd Sadwrn,” meddai Chris Roberts, Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi.

“Ffrwyth y wasgfa oedd creu 90 litr o sudd afal bendigedig ac rydym yn falch iawn bod cyfle i unrhyw un fwynhau sudd afalau’r perllannau cymunedol yn Swpar Chwarel.

“Diolch i bawb am ddod draw!”