Chwilio am luniau ar gyfer Calendr Llais Ogwan 2025

Cofiwch gyflwyno’ch llun cyn 23 Mehefin 2024

Carwyn
gan Carwyn

Ydych chi’n un sy’n hoffi tynnu lluniau o dirwedd arbennig Dyffryn Ogwen?

Os felly, mae’n bosib y bydd gennych luniau addas ar gyfer eu cynnwys yn rhifyn 2025 o Galendr Llais Ogwan.

Lluniau erbyn 23 Mehefin

Mae’r trefnwyr angen derbyn unrhyw luniau erbyn 23 Mehefin, er mwyn rhoi digon o amser i gynhyrchu’r calendr, yn barod i’w werthu o fis Hydref ymlaen.

Bydd unrhyw lun o Ddyffryn Ogwen, gan gynnwys y Carneddau a’r Glyderau yn cael eu hystyried.

Dylai’r lluniau fod ar ffurf tirlun, ac os ydych yn cyflwyno lluniau, cofiwch nodi lle cafodd ei dynnu, rhoi teitl a chynnwys eich enw a chyfeiriad.

Anfonwch eich lluniau at calendr2025@outlook.com erbyn 23 Mehefin – pob lwc!.

Dweud eich dweud