Siâr o arian “Codi’r Gwastad” i brosiect ym Methesda

Rhannu bron i £19m rhwng cynlluniau ardaloedd llechi

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd cynlluniau ym Methesda yn elwa o gyfran o arian sy’n cael ei glustnodi i Wynedd.

Daw hyn fel rhan o gyhoeddiad hir-ddisgwyliedig am rownd ddiweddaraf cyllid “Codi’r Gwastad” Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’r cyllid i fod i gyfateb i’r hyn y byddem wedi elwa ohono o arian yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r arian i Fethesda yn un o 11 prosiect trwy Gymru sy’n derbyn cyfanswm gwerth £208 miliwn.

Er nad oes manylion am faint yn union fydd yn dod i Fethesda eto, adroddir y bydd cyfanswm o £18.8 miliwn ar gael i uwchraddio llwybrau cerdded a beicio ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru ynghyd â Neuadd Ogwen dan faner “Llewyrch o’r Llechi”. Y bwriad ydi “codi’r gwastad” o hanes diwydiannol yr ardal yn ôl y manylion prin ar wefan Llywodraeth San Steffan. 

Ar hyn o bryd, nid oes manylion penodol am sut y bydd y cyllid yn cael ei wario, ond mae disgwyl y bydd prosiectau y tu hwnt i Neuadd Ogwen yn elwa o’r cyllid.

Trafodwyd y ceisiadau gan Gyngor Gwynedd ym mis Gorffennaf ac mae manylion am yr holl geisiadau gyflwynwyd ar y pryd yma.

Rhannwn fwy o fanylion am y cynllun pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.