Rhagflas o eitemau’r Ocsiwn Nadolig!

Mae gwledd yn eich aros yn Dôl Dafydd!

Ar Goedd
gan Ar Goedd
Untitled-design-2023-06T145001

Rhai o eitemau’r Ocsiwn Nadolig!

Bydd ocsiwn Nadolig yn cael ei chynnal yng Nghlwb Rygbi Bethesda ddiwedd y mis, ac mae gan ddarllenwyr Ogwen360 gyfle arbennig i gael blas ar yr eitemau fydd ar gael.

Cynhelir y noson ar 18 Tachwedd, ond bydd cyfle i roi cynnig am eitemau o flaen llaw hefyd. Ymhlith y pethau sydd ar gael mae gweithiau celf, hampyrs cynnyrch lleol, gemwaith o safon ac englyn comisiwn gan Myrddin ap Dafydd. Mae rhestr lawn o’r gwobrau i’w gweld isod.

Felly dewch draw i Glwb Rygbi Bethesda ar 18 Tachwedd. Mae pris tocyn yn £15 ac yn cynnwys bwyd poeth ac adloniant gan y Cyffro.

Bydd pob ceiniog o’r noson yn cyfrannu at sicrhau mai Catrin Wager fydd Aelod Seneddol nesaf yr ardal.

Tocynnau ar gael yma.

Eitemau’r Ocsiwn:

  1. Tocyn oes pier y Garth gan Gyfeillion Pier y Garth.
  2. Hampyr o gynnyrch Coffi Eryri a Cwrw Nant.
  3. Cinio Sul i ddau yn y Llechen, Tal-y-Bont ger Bangor.
  4. Taith tywys o stiwdio Sain gan Dafydd Iwan.
  5. Bwyd a diod i deulu o 4 gyda diod feddal neu feddwol yn Nhafarn y Garth, Bangor.
  6. MOT gan Arwyn Owen, Garej Tŷ Gwyn, Llanrwst.
  7. Potel o wisgi Tŷ’r Arglwydd wedi’i arwyddo gan Dafydd Wigley.
  8. Cacen ar gyfer unrhyw achlysur gan Elin Walker-Jones.
  9. Gwers crochenwaith neu daleb gwerth £50 gan Grochenwaith Gwenllian Dwyfor.
  10. Hampyr Llaethdy Plas Isa, Llansanffraid Glan Conwy.
  11. Print ‘Bangor’ gan yr artist lleol Sioned Glyn
  12. Mwclis gan y gwneuthurwr a’r dylunydd Ann Catrin Evans.
  13. Darn o gelf yn darlunio arfordir Cymru gan yr artist Mavis Gwilliam. Rhoddir yr eitem gan Gwyneth John.
  14. Cerdd o ‘Rhyddid’, pryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn llawysgrifen Rhys Iorwerth.
  15. Twrci ar gyfer y Nadolig gan Jones a’i Fab, Llanrwst.
  16. Englyn Comisiwn gan y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
  17. Print gan Luned Rhys Parri yn darlunio’r brotest enwog ar Bont Trefechan
  18. Crys pêl-droed Cymru wedi’i arwyddo.