Hwb Ogwen yn rhan o apêl Nadolig

Llynedd, codwyd dros £4,000

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Mae ymgyrch wedi ei lansio i godi arian ar gyfer 8 prosiect bwyd yn ardal Arfon, gan gynnwys Hwb Ogwen ym Methesda.

Mae’r apêl wedi’i lansio gan Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd ac yn San Steffan. Yn y flwyddyn a aeth heibio, bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o fanciau bwyd, ac yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, rhoddwyd bron i dair miliwn o barseli bwyd i bobl a oedd yn wynebu anawsterau ariannol rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, mwy na dwbl y sawl a ddosbarthwyd yn ystod yr un cyfnod bum mlynedd yn ôl, a chynnydd o 37% o’i gymharu â’r llynedd.

Llynedd fe godwyd £4,765 tuag at fanciau bwyd yn yr etholaeth, yn cynnwys Hwb Ogwen ym Methesda.

Wrth drafod yr apêl, dywedodd Siân Gwenllian:

“Mae’r apêl yn cael ei chynnal eleni ar adeg arbennig o bwysig. Gwta fis yn ôl mynegodd banc bwyd yng Nghoed Mawr yn fy etholaeth bryder am gostau a galw cynyddol.

​“Roedd y gefnogaeth a gafodd yr apêl y llynedd yn aruthrol. Dwi’n siŵr mai tua £500 oedd y targed a osodwyd yn wreiddiol, ond roedd y cyfraniadau’n tyfu a thyfu.

“Rydan ni’n gobeithio efelychu rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw ’leni, a chodi arian hanfodol i brosiectau bwyd ar draws yr etholaeth.

“Mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r prosiectau hyn wedi’u sefydlu ers dechrau’r pandemig yn dangos pa mor ansicr oedd sefyllfa ariannol nifer o bobl, a sut bod teuluoedd prin yn goroesi o ddydd i ddydd.”

Y prosiectau fydd yn elwa o’r apêl fydd Hwb Ogwen (Pantri Pesda), Bethesda; Banc Bwyd Arfon, Caernarfon; Banc Bwyd Coed Mawr; Bwyd i Bawb Bangor; Cynllun Bwyd Yr Orsaf, Penygroes; Porthi Dre, Caernarfon; Cynllun bwyd Llanrug a Chwm-y-glo, a Banc Bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor.

Mae Hywel Williams AS yn cynrychioli’r ardal yn San Steffan:

“Diolch i haelioni’r cyhoedd, yn ogystal ag ymroddiad gwirfoddolwyr, mae’r rhai sydd angen cymorth yn gallu rhoi bwyd ar y bwrdd y Nadolig hwn.

“Mae cefnogaeth y gymuned yn Arfon yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr. Gwn y bydd pobl leol yn dod i’r adwy ac yn  garedig yn eu cyfraniadau i’n hymgyrch eto eleni, a thrwy hynny’n sicrhau na fydd banciau bwyd lleol yn cael trafferth cynnig cymorth i bobl y Nadolig hwn.

“Mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn parhau i ymosod ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, ac o’r herwydd bydd mwy o bobl yn ddibynnol ar haelioni prosiectau bwyd.

“Serch hynny, gwn y bydd pobol Arfon yn gwneud eu rhan i gefnogi gwaith gwych y prosiectau hyn.”

Ychwanegodd Siân Gwenllian:

“Dwi’n falch fod Plaid Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn tlodi bwyd, wedi inni sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn 2024.

“Mae rhagor o waith i’w wneud, ond dwi’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn chwarae rhan fechan yn yr ymdrech honno.”

Dylai’r sawl sy’n dymuno cyfrannu ddilyn y ddolen hon.