Y siarc sy’n gwneud ei farc ar y cae rygbi

Huw Davies yn mwynhau ei flwyddyn gyntaf gyda thîm proffesiynol Sale Sharks

Carwyn
gan Carwyn
Huw

Huw Davies sy’n chwarae i dîm rygbi Sale Sharks

Cais

Cais cyntaf Huw i Sale Sharks

Taid

Huw yn mwynhau bod adref efo taid (Eric Roberts)

Llun

Llun Huw yn mynd ar y wal yng Nghlwb Rygbi Bethesda

Ieuenctid

Yn rhan o dîm Bethesda a enillodd gystadleuaeth dan 11 ym Mae Colwyn

Wedi dechrau ymarfer gyda thimau ieuenctid Bethesda ers yn chwech oed, roedd rygbi yng ngwaed Huw Davies o Fraichmelyn ers y cychwyn cyntaf.

Er mai fel canolwr y dechreuodd, fe wnaeth ei farc yn y rheng ôl ac mae bellach ar lyfrau proffesiynol tîm Sale Sharks yn Uwch-Gynghrair Lloegr.

“Doedd gen i fawr o ddewis, o’n i wastad eisiau chwarae rygbi ac eisiau gwneud yr un fath ag oedd Siôn, fy mrawd,” meddai Huw.

“Mae’r teulu i gyd wrth eu boddau efo rygbi, felly dwi wastad wedi treulio lot o amser o gwmpas Clwb Bethesda.”

Dysgu a datblygu

Wedi bod ynghlwm â thimau Sale ers rhai blynyddoedd, roedd Huw yn rhan o dîm academi’r clwb o ardal Manceinion hefyd ac mae’n ddiolchgar i’w deulu am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

“Mae Mam a Dad wedi bod yna i fi ar hyd y daith. Lot o ddreifio fi i Sale ar gyfer ymarferion ar hyd y blynyddoedd.

“Dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw, fy nheulu, mêts Bethesda a phob un o’r hyfforddwyr sydd wedi fy nghefnogi fi,” meddai.

Gan ymarfer a chwarae gyda rhai o sêr y byd rygbi, mae Huw yn dweud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfle gwych i ddysgu a datblygu.

“Mae ‘na chwaraewyr o safon uchel iawn yn y garfan, yn cynnwys pobl sydd wedi chwarae i’r Llewod a De Affrica. Mae y rheini yn yr un safle â fi ond mae pawb wedi bod yn wych ac yn help mawr.”

“Chwarae sy’n bwysig”

Ond oes yna safle lle byddai’n ffafrio bod yn y tîm?

“Chwarae sy’n bwysig, dim ots pa safle a deud y gwir os di o’n rhif wyth neu chwech.

“Y mwya’n byd dwi’n cael chwarae a chystadlu ar y lefel uchaf, y gorau dwi’n teimlo bydd y cyfle i mi ddatblygu.

“Mae o’n waith caled, efo’r hyfforddi a ballu, ond mae’n bwysig rhoi’r gwaith caled i mewn. Dyna sut ti’n dangos i’r hyfforddwyr dy fod yn haeddu cyfle am fwy o funudau ar y cae.

“Mae lefel y chwarae yn dipyn uwch yn y tîm cyntaf, does ’na ddim amser i ymlacio, ti’n gorfod fod arni hi ac yn barod trwy’r amser.”

Ond mae’n amlwg fod Huw yn gwneud ei hun yn gartrefol, ac wedi chwarae i dîm Sale Sharks a sgorio oddi ar y fainc yn un o’i gemau cyntaf.

Uchelgais

Er ei fod wedi cyrraedd safon uchel gyda thimau ieuenctid, mae’r pandemig wedi effeithio ar uchelgais Huw i chwarae dros Gymru.

“Dyna dwi’n gweithio tuag ato fo eleni, i fod yn rhan o’r garfan dan ugain efo Cymru.

“Achos Covid, nes i fethu cyfle i fod yn rhan o’r tîm dan 18 ond dwi wedi bod yn rhan o garfan ymarfer dan 20 a gobeithio y bydd yna gyfle eto yn fuan efo Cymru.

“Dwi’n teimlo fy mod i wedi datblygu lot ers i mi ymarfer efo Cymru dan 20 y tro diwethaf felly dwi’n gobeithio’r gorau.

“Dyna mae unrhyw chwaraewr rygbi eisiau yn de, i gynrychioli Cymru.”

Ond mae Dyffryn Ogwen a’r ardal a chael gweld ffrindiau a theulu yn bwysig iawn.

“Pan does gen i’m gêm, fyddai’n dueddol o ddod adra i weld pawb ac os oes yna gêm, fyddai lawr yn gwylio Bethesda.

“Mae o’n un o’r pethau sy’n gyrru fi ymlaen pan fyddai yn Sale. Cofio am y gefnogaeth dwi wedi ei gael ar hyd y blynyddoedd a gobeithio mod i’n gwneud pobl yn falch ohona fi dal i fod.”