Llyfrau ar y fwydlen yn Hwb Ogwen

Cynllun Caru Darllen yn darparu llyfrau am ddim i blant

Carwyn
gan Carwyn
IMG_1327

Diolch i gynllun Caru Darllen ysgolion y Cyngor Llyfrau, bydd Hwb Ogwen yn rhoi llyfrau am ddim i blant gyda’r pecynnau bwyd i deuluoedd y mis yma.

Bydd rhai o drigolion Dyffryn Ogwen ac ardaloedd eraill yn cael cynnig y llyfrau wrth fynd i godi eu pecynnau bwyd.

Yn ôl y Cynghorydd lleol Paul Rowlinson sy’n cynrychioli Cyngor Gwynedd ar Gyngor Llyfrau Cymru: “Mae hwn yn gynllun cyffrous sy’n ceisio cael plant o bob oed a chefndir i godi llyfr a gwneud darllen yn arfer oes.

“Rydyn ni’n ymwybodol bod heriau economaidd a chymdeithasol yn rhwystr i rieni gyflwyno llyfrau i’w plant, felly trwy’r cynllun yma, gall y rhieni fanteisio o godi eu bwyd a chodi adnoddau i’w plant eu darllen gartref.”

Mae pecynnau cynhwysfawr o 50 o lyfrau ar gael ar gyfer banciau bwyd, felly os bydd banc bwyd angen mwy nac un pecyn i’w dosbarthu yn eu lleoliadau, mae croeso iddynt gysylltu â’r Cyngor Llyfrau i’w harchebu.

Am wybodaeth bellach am y cynllun, ewch i wefan y Cyngor Llyfrau www.llyfrau.cymru/carudarllen