Heddlu’n ymchwilio i ymosodiad ci ar ddefaid

Annog perchnogion i gadw cŵn ar dennyn

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad ar ddefaid a ddigwyddodd rhwng dydd Sul 1⁠, Hydref a dydd Llun, 2 Hydref yn Gerlan, Bethesda.

Yr amheuaeth ydi bod ci wedi mynd i mewn i gae ac anafu tri oen ac un ddafad.

“Da ni’n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y dyddiau uchod a welodd unrhyw beth i gysylltu â ni,” meddai Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu’r Gogledd.

“Cofiwch gadw eich ci ar dennyn wrth ymyl da byw.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a all gynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliadau gysylltu â nhw drwy’r wefan, neu ar 101 gan ddefnyddio cyfeirnod 23000964760.