Heddlu allan i daclo cyffuriau mewn tafarndai

Heddlu allan gyda chwn arbenigol ym Methesda

Carwyn
gan Carwyn

Neithiwr, bu aelodau o Dîm Plismona Cymunedol Gogledd Gwynedd, gyda chymorth Uned Cwn Arbenigol, allan i nifer o dafarndai lleol i gynnal archwiliadau trwyddedu.

Roedd swyddogion allan ym Methesda a Bangor fel eglura’r Heddlu.

“Wedi i’r mwyafrif o’r Landlordiaid ofyn am bresenoldeb yr Heddlu gyda cwn i chwylio am gyffuriau yn y cyfarfodydd PubWatch yn ddiweddar, roedd yn bleser gan Heddlu Gogledd Cymru gyd-weithredu er mwyn dangos ein cefnogaeth i’r tafarndai lleol, gan roi neges glir i gefnogwyr y tafarndai fod defnyddio cyffuriau gwaharddedig yn anghyfreithlon.

“Fe wnaeth Juna ein ci archwilio arbenigol adnabod nifer o bobl a oedd yn cario cyffuriau heno, ac wrth ddefnyddio pwerau’r Heddlu i Stopio ag Archwilio, fe wnaeth Swyddogion yr Heddlu ddarganfod amrywiol fathau o gyffuriau gwaharddedig, a bydd y bobl hynny yn cael eu rhoi o flaen y Llys yn y dyfodol agos.”