
Bydd ocsiwn Nadolig yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Bethesda’r wythnos nesaf, ac mae dau grys rhyngwladol Cymru yn cael eu harwerthu fel rhan o’r noson.
Bydd crys pêl-droed dynion Cymru wedi’i lofnodi gan y garfan yn cael ei werthu ochr yn ochr â Thystysgrif Dilysrwydd gan y Gymdeithas Bêl-droed.
Gwisgwyd y crys rygbi merched Cymru gan Gwenllian Pyrs yng ngêm Cymru yn erbyn Canada ar 21 Hydref yn y gystadleuaeth WXV1 yn Wellington, Seland Newydd. Mae’r crys wedi ei arwyddo gan y tîm cyfan.
Mae’r fro leol yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn yr Ocsiwn, ac mae eitemau eraill yn cynnwys taith dywys o amgylch distyllfa Aber Falls yn Abergwyngregyn, gwers crochenwaith gan Grochenwaith Gwenllian Dwyfor, cinio dydd Sul yn y Llechen, Tal-y-bont a sesiwn gydag Angharad Griffiths, maethegydd lleol o’r Dyffryn.
Mae cyfanswm o 21 eitem o ansawdd uchel y bydd mynychwyr yn medru rhoi bid amdanyn nhw.
Bydd yr Ocsiwn yn cael ei arwain gan Dyfrig Siencyn, a dreuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel syrfëwr gwledig siartredig ac arwerthwr anifeiliaid, dodrefn a hen bethau.
Cynhelir y noson ar 18 Tachwedd am 6:30, ond bydd cyfle i roi bid ar eitemau ymlaen llaw. Mae tocyn yn costio £15 ac yn cynnwys bwyd poeth ac adloniant gan y band pync o Wynedd Y Cyffro.
Mae tocynnau ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.
Bydd yr arian a godir ar y noson yn mynd tuag at ymgyrch Catrin Wager i gael ei hethol yn AS dros Bangor Aberconwy‘r flwyddyn nesaf.