29 o geir wedi eu symud ddoe am barcio’n anghyfrifol

Bron i 40 cerbyd wedi eu symud ddoe o ardal Llyn Ogwen a Phen y Pass

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd i fodurwyr i barcio’n gyfrifol yn ardal Llyn Ogwen.

Daw hyn wedi i ddegau o gerbydau gael eu symud ddoe am barcio lle na ddylen nhw.

Annog pobl i fod yn gyfrifol

“Er ein bod yn gwerthfawrogi bod pobl yn mynd allan i fwynhau’r tywydd a’r golygfeydd godidog dros Benwythnos Gwyl y Banc, rydym yn annog pobl i fod yn gyfrifol ac i feddwl ble maent yn parcio ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael,” meddai Heddlu Gogledd Cymru mewn neges ddydd Sadwrn.

“Roedd y parcio anghyfrifol a pheryglus a welsom ni ddoe (Dydd Gwener) yn ardal Pen y Pass a Llyn Ogwen nid yn unig yn peryglu bywydau ond roedd hefyd yn atal mynediad brys i gerbydau.

“Cafodd bron i 40 o gerbydau, a oedd wedi parcio’n beryglus, eu hadfer ddoe, gan gynnwys 29 ger Llyn Ogwen a naw yn ardal Pen y Pass.

“Mi fydd y sefyllfa parcio mewn rhannau eraill o’r Parc Cenedlaethol yn cael eu monitro dros penwythnos y Pasg.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd a Parc Cenedlaethol Eryri i helpu i leihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill.

“Bydd unrhyw gerbyd a chanfyddir wedi parcio ar glirffordd, llinellau melyn dwbl neu’n achosi rhwystr yn cael ei symud ar gost y gyrrwr. Gwrandewch ar y rhybudd os gwelwch yn dda.”

Mae arwyddion clir wedi eu gosod ger Llyn Ogwen yn nodi bydd ceir sy’n parcio yn anghyfrifol yn cael eu symud ynghyd a llinellau melyn dwbl yn amlwg i bawb.