Fandaleiddio peiriant diffibriliwr Rhiwlas

Heddlu’n apelio am wybodaeth

Carwyn
gan Carwyn
Llun HGC
Llun HGC
Llun HGC

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth mewn perthynas â digwyddiad difrod troseddol yn Rhiwlas.

Mewn neges ar Facebook mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am fandaleiddio peiriant diffibriliwr yn y prntref i gysylltu ar unwaith.

“Credir fod y diffibriliwr oedd wedi ei leoli ym Mro Rhiwen wedi ei fandaleiddio yn hwyr nos Sadwrn, neu yn oriau mân y bore yma (dydd Sul, 10 Medi),” meddai’r neges.

“Mae’r peiriant allan o wasanaeth ar hyn o bryd. Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn riportio drwy 101, neu drwy ddefnyddio ein gwasanaeth riportio ar-lein.”

Os byddwch yn cysylltu, mae’r heddlu yn gofyn i chi ddyfynnu cyfeirnod y digwyddiad, sef: A146342.