Dafydd Hedd – ‘Rocstar’ Dyffryn Ogwen yn ei ôl

Cyfnod prysur i Dafydd Hedd a’r band wrth ryddhau sengl newydd

Carwyn
gan Carwyn

Wedi llwyddiant y gân ‘Atgyfodi’ a senglau diweddar fel ‘Bia y Nos’ a ‘Chwarel Biws’, mae’r cerddor lleol Dafydd Hedd yn paratoi at gyfnod prysur.

Yn ogystal â pherfformio yn un o brif nosweithiau’r flwyddyn yn Neuadd Ogwen ar 27 Rhagfyr, mae Dafydd a’r band yn paratoi i ryddhau sengl newydd ‘Rocstar’ a fydd allan ar 12 Ionawr.

“Ysgrifennais “Rocstar” o bersbectif plentynnaidd artist ifanc sydd yn gweld dim byd arall yn bwysig heblaw am rocio, gigio a gweld y byd,” esboniodd Dafydd.

“Mae hyn yn cael ei gyferbynnu gyda realiti o fywyd, annhegwch gwleidyddol a chariad mewn breuddwydion eraill.

“Yn ystod y gan, mae’r “rocstar” yn tyfu fyny; dal i garu rocio ond yn annog bawb ‘i ymladd dros eu hawliau er mwyn dyfodol y byd’.”

Beth i’w ddisgwyl gan ‘Rocstar’?

Yn gerddorol, mae Dafydd yn dweud fod y gân yn dangos dylanwad gan Nirvana, Los Blancos, BLE?, The Clash, Red Hot Chilli Peppers a Sam Fender, ac yn “nodweddiadol o’r naws punk ‘chill’ sy’n datblygu.”

“Mewn ychydig o eiriau: anthem amgen, grunge-rock sy’n adrodd stori “rocstar” ifanc yn aeddfedu a mynd yn flin pan mae anghyfiawnder yn lladd breuddwydion,” meddai.

Neuadd Ogwen

Cofiwch fod Dafydd Hedd yn perfformio yn Neuadd Ogwen yr un noson â Bwncath – mwynhewch os ydych chi wedi llwyddo i gael tocyn! Mae nhw’n bethau prin iawn yn ôl y sôn.