Cydweithfa – gofod cydweithio newydd yn lleol

Cynnig hanner pris tan diwedd y flwyddyn yn y gofod cydweithio yng Nghanolfan Cefnfaes

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Fel rhan o’r gwaith adnewyddu yng Nghanolfan Cefnfaes, mae Partneriaeth Ogwen yn lansio’r Gydweithfa – gofod cydweithio modern, cyfforddus.

Mae’r Gydweithfa yn cynnig amgylchedd cynnes a chyfleus i weithwyr llawrydd, entrepreneuriaid, a gweithwyr cartref sy’n chwilio am le i weithio’n hyblyg yng nghanol Dyffryn Ogwen.

Mae’r gofod ar ei newydd wedd yn cynnig desgiau unigol gyda chysylltiadau band eang cyflym i wneud eich diwrnod gwaith mor gynhyrchiol â phosibl, wrth gynnig seibiant o’r swyddfa gartref.

Yn ogystal, mae gennym gegin a rennir lle gallwch fwynhau te a choffi am ddim a defnyddio’r cyfleusterau yn ôl yr angen.

Gellir prynu tocynnau diwrnod llawn neu hanner diwrnod drwy’r ddolen yma, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i’n llawlyfr gyda rhagor o fanylion am y cyfleusterau a pholisïau.

O rŵan tan ddiwedd 2023, bydd tocynnau yn hanner pris – £5 am docyn diwrnod a £2.50 am docyn hanner diwrnod. Yn ogystal, mae croeso i unrhyw un ddod i roi cynnig ar y cyfleusterau ar gyfer diwrnod prawf am ddim – cysylltwch â gofod@ogwen.org i ddarganfod mwy a threfnu i ddod draw.