Cofio Gwenllian yn y Senedd

A diolch am Ŵyl Gwenllian

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Yr wythnos hon cefais gyfle i anrhydeddu bywyd y Dywysoges Gwenllian ar lawr y Senedd, a hynny 740 mlynedd ers ei marw.

Fe gipiwyd Gwenllian yn fabi bach o’i chynefin yn Arfon, wrth gwrs, ac fel yr Aelod o’r Senedd dros yr ardal, roedd yn bleser talu teyrnged i Gwenllian, diolch am waith Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian, yn ogystal â diolch i drefnwyr Gŵyl Gwenllian ym Methesda.

Cefais gyfle hefyd i sôn am fynydd nid nepell o Ddyffryn Ogwen!

Llongyfarchiadau i drefnwyr Gŵyl Gwenllian 2023.