Clwb Gwnïo Gofod Gwneud – dewch i ymuno ar nosweithiau Mawrth

Sesiynnau wythnosol i ddysgu neu adnewyddu sgiliau gwnïo

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Cafodd Clwb Gwnïo Gofod Gwneud sesiwn wych wythnos yma yn swyddfeydd Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda.

Ymunodd nifer o bobl a oedd yn gwbl newydd i wnïo i ddysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau i roi cynnig arni, yn ogystal â rhai sydd wedi gwnïo o’r blaen ond angen adnewyddu.

Daeth pobl i ymuno â ni hefyd a oedd â phrosiectau ar y gweill yr oedd angen help arnynt i’w cwblhau – gan gynnwys trawsnewid hwdi yn wisg colomennod ar gyfer Diwrnod y Llyfr!

Byddwn yn cynnal sesiynau agored wythnosol ar nos Fawrth o 5pm tan 7pm yn Swyddfeydd Dyffryn Gwyrdd (27 Stryd Fawr, Bethesda). Galwch heibio i’n gweld os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu – neu hyd yn oed os oes gennych brofiad gwnïo yr hoffech ei rannu ag eraill.

Cysylltwch â gofod@ogwen.org am fwy o wybodaeth.