Calendr Llais Ogwan 2024 ar werth

Y calendr ar gael i’w brynu o’r siopau am £4.50

Carwyn
gan Carwyn
Clawr-Calendr-Llais-Ogwan-2024-2

Pa ffordd well o ddechrau eich siopa am anrhegion Nadolig na phrynu copi neu ddau o Galendr Llais Ogwan 2024?

Yr anrheg berffaith i drigolion yr ardal neu rhai sy’n cofio’n annwyl am Ddyffryn Ogwen.

Mae’r calendr, sy’n cynnwys lluniau lliw hardd o olygfeydd o amgylch ardal y dyffryn gan gyfranwyr lleol, bellach ar gael o’r siopau.

Wrth gyhoeddi fod y calendr wedi cyrraedd y siopau, talwyd teyrnged i’r rhai fuodd ynghlwm â’r gwaith paratoi.

“Hoffem ddiolch eto eleni am gymorth gan Glwb Camera Dyffryn Ogwen i ddenu a dewis y lluniau ar gyfer y Calendr a diolchwn hefyd i Wasg Carreg Gwalch am eu gwaith wrth gysodi ac argraffu’r Calendr,” meddai neges gan Lais Ogwan.

“Bydd y Calendr yn cael ei werthu trwy’r siopau yn bennaf, ond, os oes rhywun yn fodlon  gwerthu cyflenwad, mae croeso iddynt gysylltu gyda Mr Walter Williams gan mai ef sy’n gyfrifol am ddosbarthu a gwerthu’r Calendr.

“Gallwch gysylltu gyda Walter ar 01248 601167 neu trwy e-bost: waltermenai@yahoo.co.uk.”

Bydd y Calendr ar werth am £4.50 eleni yn y siopau canlynol:

  • Siop Ogwen, Bethesda, a thrwy archeb gyda Chadwyn Ogwen
  • Marchnad Ogwen
  • Londis, Bethesda
  • Barbwr Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda
  • Caffi Seren, Bethesda
  • Post Rachub
  • Llys Y Gwynt (Siop SPAR)
  • Siop Palas Print, Caernarfon
  • Awen Menai, Porthaethwy

Gellir danfon y Calendr trwy’r post am £1.20 yn ychwanegol. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau archebion at Now Jones drwy ffonio 01248 600184 neu daro e-bost i: post@llaisogwan.com