Cais i barchu cae Plas Ffrancon

Byw’n Iach yn rhybuddio ar ôl adroddiadau fod rhai wedi dringo ffens y cae bob tywydd

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r corff sy’n rheoli canolfan hamdden Plas Ffrancon wedi cyhoeddi neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn annog pobl i barchu’r cae bob tywydd neu byddent yn cyfyngu mynediad.

Mewn cais ar Facebook, dywedodd Byw’n Iach fod pryderon fod rhai wedi eu gweld yn dringo ffens y cae synthetig poblogaidd ym Methesda lle mae nifer o glybiau a chriwiau lleol yn ymarfer pêl-droed.

“Yn anffodus, rydym wedi derbyn adroddiadau o blant yn dringo ffens y cae synthetig tu allan i oriau agor y ganolfan,” meddai’r neges  ganByw’n Iach.

“Nid oes mynediad i unrhyw un i ddefnyddio y cae synthetig ym Mhlas Ffrancon tu allan i oriau agor.

“Os na fydd yr eiddo yn cael ei barchu, yn anffodus bydd y mynediad yn cael ei gyfyngu i bawb.

“Felly cais caredig sydd gennyn ni i drigolion lleol, clybiau, ysgolion, rhieni a phobl ifanc i drafod y mater uchod a sicrhau na fydd pawb yn colli allan yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol criw bach.”

Gair i gall felly!