Cadwyn Ogwen yn ymestyn i Fangor wrth hybu cynnyrch lleol

Cyfle i gasglu o Fangor hefyd bellach

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd
IMG-20230929-WA0001

Robyn Meredydd (dde) o Gadwyn Ogwen gyda’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor yn derbyn ei archeb gyntaf

Produce-2-1

Peth o’r cynnyrch lleol, ffres sydd ar gael trwy Gadwyn Ogwen

Mae’r hwb bwyd, Cadwyn Ogwen sy’n hybu a dosbarthu bwyd a chynnyrch lleol wedi ymestyn i Fangor fel rhan o bartneriaeth newydd gyda’r Brifysgol.

Trwy ddefnyddio system ar-lein hwylus ar cadwynogwen.cymru, gellir archebu eich cynnyrch erbyn 12pm ar ddydd Mawrth yn barod i chi gasglu o bwyntiau casglu neu ei anfon atoch brynhawn Iau. Danfoniadau am ddim os bydd eich archeb dros £25.

Mae modd casglu o Laethdy Gwyn, Bethesda; Caffi Blas Lôn Las, Tregarth; a Thyddyn Teg, Bethel ers peth amser, a bellach mae’r trefniant wedi ymestyn i Fangor. Trwy gydweithrediad efo’r Brifysgol, gellir nôl eich cynnyrch am 4pm bob prynhawn Iau o faes parcio Prif Adeilad y Celfyddydau – hwylus iawn os ydych yn gweithio yn y cyffiniau.

“Mae Cadwyn Ogwen wedi bod yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod leol ers 2020, ac yn ddiweddar rydan ni wedi ymestyn i gydweithio gyda Phrifysgol Bangor,” meddai Robyn Meredydd, Rheolwr Prosiect Cadwyn Ogwen

“Bwriad y gwasanaeth ydi ei gwneud hi’n haws i bobl yr ardal brynu cynnyrch tymhorol a chynaliadwy arbennig sydd gan yr ardal i’w gynnig.

“Mae pob math o fwydydd – y melys a’r sawrus ar gael, ynghyd â chynnyrch gan grefftwyr talentog – sydd ar gael trwy gynhyrchwyr Cadwyn Ogwen a Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle. Mae’n ffordd wych i gefnogi cynhyrchwyr lleol a thorri lawr ar filltiroedd bwyd felly’n cynnig opsiwn siopa cynaliadwy iawn.”

Mae Cadwyn Ogwen yn gweithio gyda 23 o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol yng Ngwynedd ac Ynys Môn a gall cwsmeriaid archebu o dros 600 o eitemau gwahanol.

Mae’r system archebu ar-lein yn golygu fod cwsmeriaid yn gosod eu harcheb erbyn hanner dydd ar ddydd Mawrth, ac wedyn casglu eu nwyddau o un o nifer o leoliadau casglu yn ardal Dyffryn Ogwen o brynhawn Iau.

Fel rhan o’r trefniant newydd gyda Phrifysgol Bangor, mae cynnyrch yn cyrraedd yng ngherbyd trydan Cadwyn Ogwen a modd bellach i gwsmeriaid Bangor i gasglu archebion o faes parcio Prif Adeilad y Celfyddydau o 4pm tan 4.20pm brynhawn Iau.