Mae Cadwyn Ogwen wedi ehangu!

Datblygiadau cyffrous i’ch hwb bwyd lleol.

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cadwyn Ogwen bellach yn cydweithio gyda Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle i gyfuno ein hybiau bwyd a chynnig ystod ehangach o gynnyrch lleol o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn y ddwy ardal.

Cawsom ein hysbrydoli gan hybiau bwyd eraill sy’n cydweithio, yn enwedig y Good Food Loop yn Nyffryn Tamar. O dan y model hwn, rydym nid yn unig yn cynyddu cyrhaeddiad ein cynhyrchwyr, ond byddwn hefyd yn gallu cynnig ystod llawer ehangach o gynnyrch lleol i gwsmeriaid.

Byddwn yn cymryd ein tro i ddanfon cynnyrch i’n gilydd gan ddefnyddio cerbydau cymunedol trydan Partneriaeth Ogwen a’r Orsaf i sicrhau ein bod yn cadw ein hôl-troed carbon mor isel â phosib.

Ni fydd unrhyw dâl ychwanegol am y nwyddau sydd yn mynd ar y cylch, ac fel bob amser gallwn eu danfon i’ch drws os ydych yn byw yn Nyffryn Ogwen, neu gallwch ddewis casglu o un o’n tri man casglu:

  • Llaethdy Gwyn, Bethesda
  • Fferm Moelyci, Tregarth
  • Tyddyn Teg, Bethel

Mewn-gofnodwch i cadwynogwen.cymru i weld beth sydd gan ein cynhyrchwyr newydd i’w gynnig. Archebwch cyn hanner dydd ar ddydd Mawrth ar gyfer danfoniad neu gasglu ar bnawn dydd Iau.