Beth am fynd draw i ddiwrnod darganfod natur Morfa Madryn?

Hwyl i’r teulu yn y warchodfa natur ger Abergwyngregyn ar 2 Ebrill

Carwyn
gan Carwyn
Cherry

Cherry, y fuwch yn y warchodfa

.

Cornchwiglen

Dot-ym-Madryn

Y ferlen, Dot

Wyddoch chi fod un o’r mannau gorau yng Nghymru i weld y gornchwiglen o fewn ychydig funudau i ni?

Mae gwarchodfa natur, Morfa Madryn ger Abergwyngregyn yn gartref i bob math o ryfeddodau, ac mae cyfle i unrhyw un sydd am ddysgu mwy i fynd draw am ddiwrnod darganfod natur arbennig ar ddydd Sul, 2 Ebrill.

Darganfod Natur

Mae Gwasanaeth Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd a phartneriaid y prosiect wedi trefnu llun o ddigwyddiadau i’r teulu cyfan. Cofiwch hefyd fod bosib cyrraedd y safle drwy grwydro Llwybr yr Arfordir o Lanfairfechan – mae’r llwybr yn cynnig mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn neu sgwter i ddod i fwynhau’r hwyl a dysgu am natur.

Rhai o brif atyniadau’r diwrnod fydd:

  • Llwybr ‘Pob wy yn cyfri’ efo gwobrau wyau siocled;
  • Cyfarfod y gwartheg – dysgwch am y gwaith pwysig maent yn gwneud ar y warchodfa;
  • Helfa Madarch a Saffari Gwyfynod gydag arbenigwr lleol;
  • Gweithdy Ditectif Pŵ;
  • Adeiladu blychau adar;
  • Clwb Crefftau Natur;
  • Sesiynau Darganfod Natur – a llawer mwy!

Gwarchodfa natur

Dros y misoedd diweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a mudiadau lleol i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a gwelliannau pellach ar warchodfa natur Morfa Madryn.

Bydd y diwrnod digwyddiadau yn gyfle i weld y gwaith a dysgu mwy am y cynefin hynod werthfawr ar gyfer adar y môr sy’n bwydo ar gyfoeth y mwd a’r hesg.

Un o’r prosiectau diweddar oedd i blannu dolydd blodau gwyllt a rheoli’r tir drwy ei bori gan wartheg cynhenid ar amseroedd priodol. Bydd sesiynau Cyfarfod y Gwartheg a’r Gweithdy Ditectif Pŵ yn gyfle i ddysgu mwy am hyn. Peidiwch â phoeni – bydd cyfleusterau golchi dwylo ar gael!

Dysgu am y gornchwiglen

“Rydw i’n annog teuluoedd i ddod i fwynhau’r gweithgareddau Pasg ac i ddysgu mwy am fyd natur a’r cynefinoedd arbennig sydd gennym yma yng Ngwynedd,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Gwynedd.

“Morfa Madryn ydi un o’r llefydd gorau yng Nghymru i weld y gornchwiglen.

“Ond gan fod yr aderyn bach hynod hwn yn adeiladu ei nyth ar y ddaear mae’n agored i adar fel brain neu anifeiliaid fel llwynogod  ddwyn ei wyau neu gywion. Mae cŵn hefyd yn gallu aflonyddu arnynt, a hawdd iawn fyddai i bobl sathru ar nyth yn ddamweiniol, felly mae’n holl bwysig cynnal ffensys i’w gwarchod.

“Mae’n rhyfeddol o gofio bod Morfa Madryn wedi ei greu yn wreiddiol allan o safle oedd yn cael ei ddefnyddio i storio gwastraff adeiladu’r A55!

“Rydw i’n mawr obeithio bydd teuluoedd sy’n mynychu’r diwrnod yn cael eu hudo’n ôl i’r warchodfa dros y tymhorau, yn enwedig felly gan ei fod nepell o Lwybr Arfordir Cymru ac yn cynnig llawer o bethau difyr i bobl o bob oed i’w gweld ac i fwynhau byd natur.”

Gweithgareddau o 10am tan 3pm

Bydd gweithgareddau’r Pasg ymlaen rhwng 10am-3pm ar 2 Ebrill, mynediad am ddim. Bydd paned a chacen ar gael hefyd – am ddim i’r 100 cyntaf fydd yn cwblhau’r heriau natur ar y diwrnod. Rhywbeth i bawb o bob oed!

Mae lle parcio ar y Promenâd yn Llanfairfechan (A55, Cyffordd 15), i gyrraedd safle’r diwrnod hwyl dilynwch Lwybr Arfordir Cymru tua’r gorllewin am tua 1 milltir o’r maes parcio. Rhaid cadw cŵn ar dennyn.

Mae’r prosiect yn rhan o waith Cynllun Llefydd Lleol i natur Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma.