Awydd helpu ail dîm rygbi Bethesda?

Chwilio am wirfoddolwyr i reoli a helpu efo cymorth cyntaf

Carwyn
gan Carwyn

Gyda’r tymor wedi cychwyn, mae Clwb Rygbi Bethesda yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda’r ail dîm.

Yn benodol, mae’r clwb awydd clywed gennych os oes diddordeb yn y swyddi gwirfoddol gyda’r ail dîm fel Rheolwr Tîm a Chymorth Cyntaf.

“Bydd rheolwr y tîm yn gweithio gyda hyfforddwyr a chapteiniaid y clwb i sicrhau bod holl anghenion rheoli’r 2il Dîm yn cael eu diwallu,” meddai’r cais ar gyfrif Facebook Clwb Rygbi Bethesda.

“Bydd angen y swyddog cymorth cyntaf er mwyn i gemau gymhwyso cymorth cyntaf yn ôl yr angen. Mae angen tystysgrif hyfforddiant cymorth cyntaf neu fel arall bydd y clwb yn trefnu cwrs cymorth cyntaf ar gyfer yr ymgeisydd.”

Felly, os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch gyda’r Clwb neu adael neges ar eu tudalen Facebook yma