Awydd dysgu sut i greu ataliwr drafft?

Dewch i sesiwn i helpu’r gymuned i gadw’n gynnes trwy’r gaeaf

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Er mwyn helpu i gadw ein cymuned yn gynnes y gaeaf hwn, mae Hwb Ogwen a’r Gofod Gwneud yn ymuno i wneud atalyddion drafft a fydd ar gael trwy Hwb Ogwen y gaeaf hwn.

“Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gall drysau drafftiog achosi hyd at 15% o golli gwres mewn cartrefi – a gallant gostio hyd at £125 yn ychwanegol y flwyddyn yn ein biliau ynni. Ond gall ychwanegu ataliwr drafft helpu i gadw’ch cartref yn gynhesach ac yn fwy clyd dros y misoedd nesaf,” meddai Robyn Meredydd o Bartneriaeth Ogwen.

“Gall atalyddion drafft fod yn ddrud i brynu, felly rydym yn gweithio gyda’r gymuned i wneud atalyddion drafft a fydd ar gael drwy Hwb Ogwen y gaeaf hwn.

“Os oes gennych chi gwpl o oriau sbâr dydd Sadwrn yma, beth am ddod i Ganolfan Cefnfaes i helpu? Bydd cymorth wrth law, felly does dim angen profiad neu offer gwnïo.

“Mae cymuned Dyffryn Ogwen wedi bod yn hael iawn gyda rhoddion defnydd – ond gallwn wastad ddefnyddio mwy. Dewch ag unrhyw ffabrig sbâr, hen lenni, blancedi ac ati i swyddfa Dyffryn Gwyrdd yn 27 Stryd Fawr os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn,” ychwanegodd Robyn.

Cynhelir y sesiwn i fyny’r grisiau yng Nghanolfan Cefnfaes o 10am tan 2pm ddydd Sadwrn 18 Tachwedd.

Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch esme@ogwen.org / anna@ogwen.org neu ffonio 01248 602131.