Awydd dod yn Arweinydd Tir Isel?

Cyfle i hyfforddiant am ddim i grŵp bach o bobl leol.

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Mae Partneriaeth Ogwen, efo cefnogaeth Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, yn cynnal hyfforddiant Arweinydd Tir Isel i grŵp bach o bobl leol i Ddyffryn Ogwen. Rydyn ni’n gobeithio gallu creu carfan newydd o dywysyddion lleol i helpu rhaeadru straeon a threftadaeth ein cymuned.

Yn ogystal â’r prif hyfforddiant Arweinydd Tir Isel, fydd yn cael ei ddarparu gan Caban Gerlan ar 7 a 8 Hydref, bydd sesiynau ychwanegol ar gael efo Parc Cenedlaethol Eryri i’r grŵp gael cyfle i ddysgu mwy am hanes a threftadaeth y Carneddau a Dyffryn Ogwen.

Pan fydd y tywysyddion lleol newydd wedi pasio’r asesiadau, mi fydd Partneriaeth Ogwen yn cynnal rhaglen o deithiau cerdded yn y gwanwyn a’r haf i rannu hanesion a straeon y Dyffryn yn ehangach.

Am fwy o wybodaeth neu gofrestru diddordeb yn yr hyfforddiant, plîs cysylltwch trwy e-bostio robyn@ogwen.org