£327,000 i brosiect trafnidiaeth y Dyffryn Caredig

Adeiladu ar lwyddiant y Dyffryn Gwyrdd, Partneriaeth Ogwen gyda chyllid o Gronfa Gymunedol y Loteri

Menna Thomas
gan Menna Thomas
Cyhoeddiad-loteri-Dyffryn-caredig-1

Mae prosiect fydd yn datblygu a hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy yn Nyffryn Ogwen dros y ddwy flynedd nesaf wedi sicrhau £327,411 o arian o Gronfa Gymunedol y Loteri.

Mewn cyfnod lle mae cymunedau’n wynebu heriau trafnidiaeth a chostau byw cynyddol, mae Partneriaeth Ogwen yn falch iawn o gyhoeddi’r buddsoddiad sylweddol i ariannu prosiect y Dyffryn Caredig.

Bydd y gwaith yn adeiladu ar lwyddiant y Dyffryn Gwyrdd a’r tro yma bydd y gwaith yn canolbwyntio ar drafnidiaeth gymunedol – cerbydau a beiciau trydan fydd yn darparu cludiant fforddiadwy a cynaliadwy’i gymunedau Dyffryn Ogwen.

“Rydym wrth ein boddau, ac yn wirioneddol ddiolchgar i’r Gronfa Gymunedol ac i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y gefnogaeth hael yma,” meddai Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen.

“Byddwn yn defnyddio’r arian i ehangu’n cludiant cymunedol werdd fydd yn cynorthwyo trigolion ein cymunedau’i gyrraedd apwyntiadau, gwaith, siopa a digwyddiadau cymdeithasol.

“Bydd hyn yn cyfrannu at leihau ôl-troed carbon y Dyffryn a chryfhau gwead ein cymuned a chyfranogiad trigolion i fywyd a chymdeithas Dyffryn Ogwen.”

Ychwanegodd Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Caredig:

“Mae’r newyddion ardderchog yma’n hwb mawr i’n gwaith ac yn deillio o waith caled y timau yn y Bartneriaeth, y gwirfoddolwyr sydd wedi cefnogi’r gwaith a’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n greiddiol i bob dim rydym yn wneud yn y Bartneriaeth.

“Byddwn nawr yn gweithio eto gyda’n holl bartneriaid er mwyn darparu atebion hygyrch, fforddiadwy a chynaliadwy’i lenwi bylchau trafnidiaeth gyhoeddus ein cymuned.”