Ydych chi eisiau stondin ym Marchnad Ogwen?

Cais am stondinwyr newydd i ymuno o fis Medi

Carwyn
gan Carwyn

Mae trefnwyr Marchnad Ogwen wedi cyflwyno cais am bobl i ymuno fel stondinwyr newydd dros y misoedd nesaf.

Wedi dwy flynedd anodd, mae’r farchnad wedi hen ail-ddechrau ar ôl gwaetha’r pandemig ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un fyddai awydd cefnogi.

Mewn neges ar Facebook, dywedodd y trefnwyr:

“Mae Marchnad Ogwen yn chwilio am stondinwyr newydd ar gyfer mis Medi ac ymlaen.

“Ar hyn o bryd mae gennym stondin:

  • Ffrwythau, llysiau a wyau
  • Bwydydd poeth e.e rholiau selsig, peis ayyb
  • Crefftau gwau, dafadd a bath bombs
  • Cacennau a danteithion
  • Caws
  • Jamiau
  • Mosaics
  • Crefftau pren
  • Clustogau a bagiau
  • Addurniadau cartref
  • Nwyddau llechi
  • Body shop
  • Coffi

“Oes gennych chi rhywbeth gwahanol?”

Beth amdani felly, os ydych awydd, cysylltwch gyda’r trefnwyr ar ebost: ysgrifennydd@marchnadogwen.co.uk