Saith o swyddi newydd ym Methesda

Oes gennych chi ddiddordeb gweithio’n Neuadd Ogwen a’r Fic?

Carwyn
gan Carwyn

Mewn cyfnod pan mae nifer ohonom yn poeni am filiau ynni, cynnydd prisiau bwyd ac effaith chwyddiant, mae yna newyddion da ym Methesda gyda chyfres o swyddi newydd.

Swyddi parhaol

Mewn neges ar gyfrif Neuadd Ogwen, rhannwyd manylion am y swyddi amrywiol:

“Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod gennym saith swydd newydd ar gael ac yn barod i’w llenwi o fewn Tabernacl (Bethesda) Cyf.” meddai’r neges.

“Bydd y swyddi yma i gyd yn cynnwys gweithio yn Neuadd Ogwen a’r Fic, maent i gyd yn swyddi parhaol (gyda chyfnod profi o chwe mis) ac mae ganddynt oriau gwarantedig bob wythnos…

“Credwn y dylid talu cyflog teg i bawb ac felly mae pob swydd yn unol â’r Cyflog Byw Cenedlaethol presennol o £10.90 yr awr, neu’n uwch na hynny.”

Beth ydi’r swyddi?

  • Cynorthwyydd Gweinyddol – 30 awr yr wythnos
  • Cynorthwyydd Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol – 15 awr yr wythnos
  • Cynorthwyydd Glanhau a Lletygarwch – 30 awr yr wythnos
  • Cynorthwyydd Bar – 30 awr yr wythnos
  • Cynorthwyydd Bar – 15 awr yr wythnos
  • Cynorthwyydd Bar – 7.5 awr yr wythnos

Am fwy o wybodaeth am y swyddi, ebosiwch swyddfa@neuaddogwen.com

Y dyddiad cau ar gyfer pob swydd ydi 5yp ar ddydd Gwener, 2 Rhagfyr 2022.