Pwy sy’n perthyn i deulu’r perfformwyr enwog Ffrangcon-Davies?

Darlun gan Gareth Griffith yn portreadu’r actores enwog, Gwen

Carwyn
gan Carwyn
A79F3C68-FE6B-4603-8863-644D735530D2

Llun Gareth ar y chwith a chopi o waith Stickert ohoni ar y dde

gareth-griffith-1

Gareth Griffith yn Storiel

Mae delwedd drawiadol o un o actoresau mwyaf ei chyfnod, ac sydd â chysylltiadau â’r ardal yn chwarae rhan amlwg yn arddangosfa gan yr artist Gareth Griffith.

Fel y bydd darllenwyr selog yn ymwybodol, mae arddangosfa Ystafell Artist gan Gareth o Fynydd Llandygai i’w weld yn Storiel ym Mangor tan ddiwedd mis Rhagfyr.

Actores enwog

Un o’r darnau sydd i’w weld yn yr arddangosfa ydi “In the national we trust” sydd â chysylltiad gydag ardal Bethesda fel yr eglura Gareth.

“Yn y gwaith, mae yna bortread o’r actores enwog o’r ganrif ddiwethaf, sef Gwen Ffrangcon Davies,” meddai.

“Mae hi’n ei gwisg Isabella o Ffrainc yn y ddrama Richard II gan Christopher Marlowe.

“Peintiwyd y llun gwreiddiol gan un o’r artistiaid mwyaf, ac un o fy hoff artistiaid i, o’r ugeinfed ganrif, Richard Walter Sickert. Roedd o’n ffan fawr o Gwen.”

Mae’r llun gwreiddiol gan Sickert yn rhan o gasgliad oriel y Tate yn Llundain ac mae’n dyddio’n ôl i 1932. Fe’i disgrifiwyd ar y pryd fel gwaith gorau’r artist.

Cyswllt lleol

Ond mae cyswllt clir hefyd gyda Dyffryn Ogwen gan fod ei thad, David Thomas Davies wedi dewis yr enw llwyfan o Nant Ffrancon.

“Roedd ei thad, David Ffrangcon Davies yn fariton byd-enwog yn ei ddydd ac yn dod o’r ardal, esbonia Gareth Griffith.

“Rheolwr ffowndri o Fethesda oedd ei dad o. Tybed oes yna deulu ar ôl ym Methesda heddiw?”

Wel, tybed yn wir. Rhowch wybod os oes gennych unrhyw wybodaeth neu os ydych chi’n perthyn i’r teulu amryddawn yma.

Mae’r darlun o Gwen Ffrangcon Davies, a gweddill arddangosfa Gareth Griffith i’w weld yn Storiel tan ddiwedd mis Rhagfyr.

Cofiwch hefyd, mae digwyddiad Taith a Sgwrs gyda’r artist yn Storiel ar ddydd Gwener, 9 Rhagfyr.