Offeiriad Arloesol Bethesda

Cyflwyniad byr i gwaith Offeiriad Arloesol

Sara Roberts
gan Sara Roberts
eglwys-wyllt

addoli yn y goedwig

litter-pick

hel sbwriel

croes

creu bug hotel allan o’r groes gyda plant ysgol Tregarth

spiral

patrwm ar gyfer Sul y Mamau

Offeiriad Arloesol yw teitl swyddogol fy swydd gyda’r Eglwys yng Nghymru.

Beth yw hynny, medd chi? Wel, cwestiwn da, ag un dwi’n dal i drio ei hateb,  a dweud y gwir!

Offeiriad ers 2018

Cefais fy ordeinio fel offeiriad yn 2018 ac ar ôl 2 flynedd fel curad cefais fy ngwahodd i geisio am swydd newydd o fewn yr esgobaeth. Swydd newydd, arloesol wedi’i chyllido gan swm o arian wedi’i rhyddhau gan yr Eglwys yng Nghymru i ariannu prosiectau efengylu na all eglwys gyffredin eu cynnal heb arian ychwanegol.

Y bwriad yw cyrraedd y bobl sydd efallai wedi colli eu perthynas â’r eglwys draddodiadol, neu yn chwilio am rywbeth ysbrydol ond heb gysylltu ag unrhyw sefydliad ffurfiol. Rhan o’r weledigaeth oedd creu gymuned newydd, arloesol i bobl ifanc er mwyn rhoi’r cyfle iddynt wario flwyddyn yn dirnad unrhyw alwedigaeth i’r weinidogaeth ac i gynnig profiadau unigryw wrth iddynt gyd-ddysgu, cyd-fyw a chyd-weithio.

Mae 2 berson ifanc wedi dod ymlaen yn ddiweddar yn mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o hyn ac felly flwyddyn nesaf fyddent yn treulio amser yn profi gwahanol fentrau o fewn yr esgobaeth.

Beth yw offeiriad arloesol?

Ar ôl blwyddyn a hanner ar ‘llawr gwlad’ mae’r weledigaeth wreiddiol wedi newid ychydig wrth i ni ymateb i’r digwyddiadau, trafodaethau a phobl rydym wedi cwrdd. Ac mae hynny yn fy arwain yn nol at y cwestiwn gwreiddiol – beth yw offeiriad arloesol.

Yn wahanol i offeiriad traddodiadol gyda dyletswyddau a disgwyliadau penodol, mae’r arloeswyr yn yr eglwys yn ymateb i heriau a chyfleoedd yr Ysbryd Glân gan fod ar agor i ble bynnag mae’n ein harwain. Yn ymarferol mae hynny’n ein galluogi i dreulio amser yn gwrando ar bobl gyffredin yn eu cynefin, darganfod ble mae Duw eisoes ar waith a cheisio dirnad beth yw’r ffordd orau o ymateb i anghenion bobl.

Rydym wedi cael ein rhyddhau oddi wrth bwysau cynnal adeiladau, gwasanaethau traddodiadol a phryderon am godi arian ayb er mwyn bod yn fwy hyblyg a pharod i gyd-gerdded a phobl ar eu taith ysbrydol. Yn ymarferol mae hynny’n golygu gwario lot o amser mewn caffis! A hefyd yn garddio, dod ar draws grwpiau o bobl yn gwneud pethau gwych a cheisio helpu, clywed hanesion personol, rhyfeddol a dysgu mwy a mwy am ymddiried yn Nuw. Mae’n fraint i gael eich galw i’r fath swydd.

Eglwys Wyllt

Rhan arall o’r gwaith yw creu cyfleoedd newydd, wahanol i bobl cwrdd â’r Ysbryd. Tra’n byw ym Methesda rwyf wedi creu Eglwys Wyllt, sef ‘gwasanaethau’ yn yr awyr agored o gwmpas Fethesda. Fel arfer mae ’na destun arbennig, cerddoriaeth, stori a rhyw weithred greadigol i helpu pobl cysylltu gyda’i gilydd, gyda’r amgylchedd a gyda Duw. Rydym wedi dathlu’r tymhorau, yr elfennau, y Pasg, ’Dolig, Seintiau arbennig, y Cymun Bendigaid ayb i gyd o dan yr awyr agored. Os hoffai unrhyw un ymuno â ni neu eisiau fwy o wybodaeth mae Eglwys Wyllt ar Facebook neu ebostio (sararoberts@churchinwales.org.uk)

I nodi’r Adfent, rwyf wedi creu ‘cwrs’ i gynnig cyfle i ni fyfyrio ar wir ystyr y Nadolig trwy ddefnyddio’r canhwyllau yn y dorch adfent. Os hoffai unrhyw yn ymuno â ni, maen nhw ar nos Fawrth o 29 Tachwedd hyd at 20fed o Rhagfyr, yn Eglwys Santes Fair, Gelli, Tregarth. Cysylltwch am fwy o fanylion.

Os hoffai unrhyw un trafod y pethau ’ma ymhellach, dwi o hyd ar gael am banad a dro fach!

Pob bendith am dymor y Paratoi a’r Disgwyl

Sara