Noson Agored Llaethdy Gwyn

Dewch draw am sbec ac i siopa ’Dolig

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd
FB_IMG_1671375585794Cosyn Cymru
FB_IMG_1671375590523Cosyn Cymru
FB_IMG_1671375593470Cosyn Cymru

Cofiwch ddod draw i Laethdy Gwyn, Bethesda nos Lun 19 Rhagfyr o 4 tan 8 – safle yr hen eglwys Gatholig, drws nesa i gae pêl-droed Bethesda (LL57 3BJ).

Bydd cyfle i brynu caws a hamperi Cosyn Cymru gan Carrie Rimes, yn ogystal â hamperi o gynnyrch lleol gan Cadwyn Ogwen a Maggie’s – syniadau gwych am anrhegion Nadolig munud olaf.

Gewch chi hefyd mwynhau chowder pysgod blasus Bwyd Môr Menai.

Dewch yn llu i gefnogi busnesau lleol!