Noson Agored Llwyddiannus i Gosyn Cymru

Mae Pesda yn paratoi ar gyfer y Nadolig!

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Fe ddaeth pobl Bethesda a thu hwnt allan yn eu niferoedd i gefnogi noson agored Cosyn Cymru ar nos Lun, 19 Rhagfyr yn ei safle newydd yn Llaethdy Gwyn.

Roedd hi’n wych gweld gymaint yn dod trwy’r drws ac yn mwynhau cynnyrch gan Gosyn Cymru, Bwyd Môr Menai, Bethesda Wholefood Co-op a mwy.

Mae dal cyfle i brynu caws cyn y Nadolig – bydd Llaethdy Gwyn (ar safle’r hen eglwys Gatholig) ar agor o 10 tan 5 hyd at hanner dydd 24ain Rhagfyr.

Rydym yn edrych ymlaen yn barod at “Agoriad Swyddogol” Llaethdy Gwyn ar 10fed o Fawrth. Tan hynny, gallwch chi gael caws Cosyn a llwyth o gynnyrch lleol o safon arbennig wedi dosbarthu i’r drws trwy Gadwyn Ogwen.