Mynnwch eich copi o Galendr Llais Ogwan

Calendr 2023 ar gael yn y siopau – bargen am £4.50

Carwyn
gan Carwyn
thumbnail_IMG_4478_Calendr

Er bod yna dipyn ar ôl o 2022, mae’n debyg bydd nifer ohonoch wedi dechrau meddwl am anrhegion Nadolig i lenwi’r hosan. Beth well na Chalendr Llais Ogwan 2023 sydd ar gael i’w brynu yn y siopau a gan werthwyr lleol.

Mae’r Calendr yn cynnwys lluniau lliw hardd o olygfeydd o amgylch Dyffryn Ogwen gan gyfranwyr lleol unwaith eto eleni.

“Hoffem ddiolch eto eleni am gymorth gan Glwb Camera Dyffryn Ogwen i ddenu a dewis y lluniau ar gyfer y Calendr a diolchwn hefyd i Richard Alwyn Jones a Gwasg Ffrancon am eu gwaith wrth gysodi ac argraffu’r Calendr,” meddai Gareth Llwyd, Ysgrifennydd Llais Ogwan.

“Bydd y Calendr yn cael ei werthu trwy’r siopau yn bennaf, ond, os oes rhywun yn fodlon gwerthu cyflenwad, mae croeso iddynt gysylltu gyda Mr Walter Williams gan mai ef sy’n gyfrifol am ddosbarthu a gwerthu’r Calendr.

“Gallwch gysylltu gyda Walter ar 01248 601167 neu trwy e-bost: waltermenai@yahoo.co.uk”

Mae’r Calendr ar werth am £4.50 eleni yn y siopau canlynol:

  • Siop Ogwen, Bethesda, a thrwy archeb gyda Chadwyn Ogwen
  • Marchnad Ogwen
  • Londis, Bethesda
  • Barbwr Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda
  • Caffi Seren, Bethesda
  • Post Rachub
  • Llys Y Gwynt (Siop SPAR)
  • Siop Palas Print, Caernarfon
  • Awen Menai, Porthaethwy