Mae Marchnad Ogwen yn ôl!

Busnesau lleol yn brysur unwaith eto!

Lois Nottingham
gan Lois Nottingham
70B361F9-5603-4E8B-B663

Newyddion da i drigolion lleol! Mae Marchnad Ogwen yn ôl!

Yn dilyn toriad yn ein traddodiad misol (diolch i cofid!), mae marchnad Ogwen yn ôl a’r neuadd yn llawn stondinwyr hynod o dalentog. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn ystod y tair farchnad ddiwethaf, ble mae nifer sylweddol o bobl o bell ac agos wedi dod i gefnogi ein stondinwyr lleol. Diolch yn fawr i chi gyd!

Mae ein marchnad yn Neuadd Ogwen ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis. Gallwch weld ystod eang o nwyddau, gan gynnwys crefftau gwau, caws, cardiau, jamiau, clustogau, nwyddau harddwch, cacennau a danteithion, peis a phastai, ffrwythau, llysiau ac wyau a llawer iawn mwy.

Dilynwch ein tudalennau Facebook ac Instagram er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am ein marchnad.

#defnyddiwchnineucollwchni #cefnogilleol