Gwobr y Gymraeg gyda’r Bwrdd Iechyd

Seicotherapydd Celf o Fethesda yn ennill clod am ei hymrwymiad i’r iaith

Carwyn
gan Carwyn
8386C828-4DF4-4932-B3CA

Mae Manuela Niemetscheck o Fethesda wedi ennill categori Gwobr y Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2022.

Yn Seicotherapydd Celf yn Ysbyty Hergest, enillodd Manuela’r wobr am ddatblygu darpariaeth ddwyieithog ym maes gwasanaethau Seicotherapi Gelf.

“Esiampl wych”

Mae Manuela wedi cael ei disgrifio fel ‘esiampl wych’ i eraill ddysgu’r Gymraeg. Daw yn wreiddiol o Vancouver yng Nghanada, a chafodd gydnabyddiaeth enillydd yng Ngwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd.

Mae’n dilyn gwobr dysgwr y flwyddyn a enillodd yn gynharach eleni.

Dosbarthiadau cymunedol

Treuliodd y Seicotherapydd Celf, sy’n gweithio ym Mangor, amser yn dysgu Cymraeg trwy ddosbarthiadau cymunedol a chyrsiau yng nghanolfan dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn cyn dechrau yn ei swydd gyda’r Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Beth Jones, Tiwtor y Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a enwebodd Manuela ar gyfer y wobr: “Caiff sesiynau unigol Therapi Celf Manuela eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae sesiynau grŵp yn cael eu hwyluso gan ddefnyddio model cyflwyno dwyieithog, a hynny’n aml mewn grwpiau iaith cymysg.

“Mae hyn yn arloesol, gan fod y Saesneg yn aml yn gallu troi’n brif gyfrwng gweithgareddau mewn grwpiau iaith cymysg.

“Nod y model dwyieithog y mae Manuela wedi’i sefydlu yw sicrhau bod y Gymraeg yn dal i fod yn bresennol ac i gynorthwyo siaradwyr Cymraeg ar unrhyw lefel yn y grŵp i deimlo eu bod yn rhan o’r cyfan a bod croeso iddynt gyfrannu yn eu dewis iaith.”

Ymdrech trwy’r pandemig

“Yn ystod pandemig Covid-19, daeth y grŵp therapi celf dwyieithog i ben dros dro a chafodd sesiynau eu cynnal ar sail un i un,” meddai Beth Jones.

“Gan weithio o bell, gwnaeth Manuela barhau i gynnig sesiynau yn Gymraeg gyda chleifion Cymraeg eu hiaith.

“Hefyd, yn ystod cyfnod Covid-19, dechreuodd Manuela gynnig goruchwyliaeth rithiol i gymheiriaid gyda Therapydd Celf Cymraeg ei iaith arall er mwyn parhau i edrych ar brofiadau cleifion, darparu’r gwasanaeth ac ymarfer geirfa Gymraeg sy’n benodol i’r pandemig, PPE a darpariaeth ar-lein.

“Mae Manuela yn esiampl wych i eraill ddysgu’r Gymraeg. Llongyfarchiadau Manuela!”

Mynd y filltir ychwanegol

Dywedodd Rhys Evans, o noddwr y wobr Ateb: “Mae’r fantais i gleifion allu cael mynediad at ofal iechyd a chyngor yn eu dewis iaith i’w gweld yn amlwg. Hoffwn longyfarch pob un o’r tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol am eu hymdrechion i gefnogi a grymuso pobl sy’n manteisio ar wasanaethau’r GIG yng Ngogledd Cymru.

“Yn benodol, llongyfarchiadau i Manuela am fynd y filltir ychwanegol yn ei hymdrechion, a da gweld ei bod wedi cael cydnabyddiaeth am hynny trwy ennill y wobr hon.”