Gwisgoedd ysgol am ddim – pam lai?

Mae gwisgoedd ysgol ar gael i’w harchebu trwy Petha

Carwyn
gan Carwyn
E898010C-5777-483B-9E21

Llun Petha: Rhai o’r gwirfoddolwyr fu’n brysur yn didoli’r dillad ysgol

Gyda blwyddyn newydd ysgol ar fin cychwyn, mae’n debyg fod sawl teulu yn paratoi ar gyfer bore Llun.

Cael y bagiau’n barod, gwalltiau pawb wedi torri ac wrth gwrs gwneud yn siŵr fod y gwisgoedd ysgol yn dal i ffitio!

Da i’r boced a’r amgylchedd

Gyda’r argyfwng costau byw yn taro teuluoedd yma yn Nyffryn Ogwen fel gweddill y wlad, mae yna gynllun blaengar allai helpu i arbed arian a’r amgylchedd yr un pryd.

Mae’n bosib iawn eich bod wedi darllen am y cynllun ailddefnyddio dillad ysgol neu wedi cyfrannu ffrog, siwmper neu drowsus sydd wedi mynd yn rhy fychan i’r plant.

Diolch i’r cynllun sydd wedi gweld grŵp o wirfoddolwyr yn golchi a sortio cannoedd o eitemau dillad ysgol y dyffryn, mae’r dillad ar gael i’w harchebu ar wefan Petha.

Sut mae’n gweithio?

  1. Creu cyfri ar lein ar wefan Petha.
  2. Archebu gwisg.
  3. Casglu’r wisg o Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda (yn ystod oriau agor arferol).
  4. Dod a fo nôl ar ddiwedd y flwyddyn ysgol (ond da ni’n dallt fod dillad yn gallu mynd ar goll/torri felly peidiwch poeni os da chi methu!).