Biniau dillad ysgol wedi symud

Cyfle o hyd i roi hen ddillad ysgol i’w hail-ddefnyddio

Carwyn
gan Carwyn
IMG_8915
295293255_181425607669428

Rhai o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn didoli’r dillad

294658777_180588801086442

Plas Ffrancon

294928438_180588807753108

Swyddfa Dyffryn Gwyrdd

294791108_180588767753112

Llyfrgell Dyffryn Ogwen

296733947_182905214188134

Y gwirfoddolwyr wrthi’n didoli

296876954_182905204188135

Gwaith caled didoli’r holl ddillad ysgol

Fe gofiwch fod ysgolion Dyffryn Ogwen wedi bod yn helpu i gasglu hen ddillad ysgol cyn diwedd y tymor.

Ond nid dyna’r diwedd i’r cynllun i ail-ddefnyddio’r iwnifform ac mae cyfle o hyd i unrhyw un na chafodd gyfle cyn diwrnod ola’r ysgol ac sydd eisiau cefnogi.

Mae’r cynllun sydd ar waith ar draws Dyffryn Ogwen yn ei le gyda chefnogaeth prosiect Petha i gasglu ac ail-ddefnyddio gwisgoedd ysgol i helpu teuluoedd arbed pres a lleihau gwastraff.

Mae’r biniau oedd wedi eu lleoli yn yr ysgolion bellach wedi eu symud i dri lleoliad cymunedol ym Methesda ac mae croeso i chi roi dillad ysgol o safon nad oes defnydd gennych bellach.

Mae’r gwirfoddolwyr sydd wrthi’n trefnu yn parhau i dderbyn gwisgoedd ar gyfer ysgolion Abercaseg, Bodfeurig, Dyffryn Ogwen, Llanllechid, Penybryn, Rhiwlas a Tregarth.

Mae’r biniau bellach ar gael yng nghanolfan Plas Ffrancon, yn Swyddfa’r Dyffryn Gwyrdd ar y Stryd Fawr (rhif 27) ac yn y Llyfrgell. Bydd y biniau ar gael yn ystod oriau agor – felly cofiwch fwrw golwg ar yr amseroedd cyn mynd draw efo’ch dillad.

Dillad ar gael rŵan

Ond gyda llawer o deuluoedd eisoes wedi cyfrannu, mae yna hen ddechrau ar y gwaith golchi, didoli a chatalogio’r dillad sydd ar gael ar gyfer y tymor newydd. Diolch i’r holl griw o wirfoddolwyr am eu gwaith dros yr wythnosau diwethaf. Mae yna ddillad eisoes yn dechrau cael eu casglu i’w hail-ddefnyddio a gallwch fwrw golwg ar beth sydd ar gael yma.

Mae yna sesiwn sortio arall yn cael ei gynnal nos Fercher, 17 Awst o 7pm tan 9pm yng Nghanolfan Cefnfaes. Felly os ydych awydd dod draw i helpu gyda’r gwaith, mi fydd croeso cynnes yn eich disgwyl.