Gohirio ras Siôn Corn

Rhagolygon tywydd yn golygu na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am y tro

Carwyn
gan Carwyn

Mae trefnwyr Ras Siôn Corn – a oedd i’w gynnal fore Mawrth, 27 Rhagfyr 2022 – wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad yn bwrw ymlaen am y tro.

Mewn neges ar dudalen Facebook Carnifal Bethesda mae’r trefnwyr yn dweud eu bod wedi cymryd y penderfyniad oherwydd ragolygon y tywydd anffafriol.

“Oherwydd y rhagolygon tywydd ar gyfer ‘fory – gwynt a glaw trwm, yn anffodus bydd rhaid gohirio’r ras tan y flwyddyn newydd,” meddai’r neges.

“Cadwch lygad ar y dudalen am ddyddiad newydd, ac efallai bydd angen newid y themâu hefyd!”