Dyffryn Ogwen yn cefnogi Cymru

Digwyddiadau Cwpan y Byd yn cael eu cynnal

Carwyn
gan Carwyn
CYMRU-vs-UDA
CYMRU-vs-LLOE

Sut fyddwch chi’n mynd i ysbryd Cwpan y Byd a chefnogi’r tîm cenedlaethol?

Cofiwch fod yna nifer o ddigwyddiadau’n lleol sy’n cael eu cynnal fel rhan o ddathliadau cenedlaethol i nodi fod Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae yna noson llawn hwyl ar y gweill yn Neuadd Ogwen ar gyfer y gêm gyntaf i dîm Rob Page. Mi fydd Cymru yn wynebu tîm yr Unol Daleithiau ar nos Lun, 21 Tachwedd.

Mae’r drysau’n agos yn Neuadd Ogwen am 6 i fwynhau’r gêm sy’n cychwyn am 7 gyda grŵp Pipeworks yn chwarae’n fyw. Mi fydd y pres Oompah yn chwarae caneuon Cymraeg ac eraill cyn y gêm, am hanner amser ac ar ôl y gêm.

Bydd y bar ar agor, cyfle i fwynhau’r gêm mewn awyrgylch hwyliog a’r gêm ar y sgrin fawr. Bydd croeso i deuluoedd – £5 i oedolion a £3 i unrhyw un dan 18. I archebu tocyn ewch draw i wefan Neuadd Ogwen.

Ac ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr ar nos Fawrth, 29 Tachwedd mi fydd yr hen ffefrynnau, Moniars yn perfformio ar ôl y gêm. Manylion llawn am archebu tocynnau ar gael ar wefan Neuadd Ogwen yma.